Dyma ymateb gweledol gan yr artist Gareth Owen i gerdd hynod gan James Kitchener Davies – Cyfres o dorluniau leino yw 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu' yn seiliedig ar gerdd enwog gan James Kitchener Davies Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu Gareth Owen ar daith rhyfeddol ac amrywiol yng nghwmni person arbennig iawn. Suddodd i sigleni’r gors a cherdded ar balmentydd y dre. Bu yng nghwmni’r dryw lle roedd yr awel oedd yn tricial trwy fonion y perthi ddim yn ddigon i foelyd ei blu, yn ogystal ac ysgwyd ar y meinder fel brân ar frigyn yn nannedd y gwynt. Profodd y torri calon mewn angladd lle roedd pobl yn boddi mewn hiraeth, tra hefyd yn profi’r wefr o chwarae’n ben-ysgafn â gwiwerod a gwneud campau ar drapeze mewn syrcas. Cerddodd i mewn i fyd dychmygol y ddrama a realaeth y gorymdeithio banerog ac ymgyrchu brwd. Trafeiliodd drwy amser o gyfnod di-hid plentyndod i ochr gwely angau, ac i glyw gweddi ingol.